Gwefan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government

Amdanom ni

Beth yw ystyr digidol

Gall gweithio’n ddigidol olygu bod gwybodaeth am waith yn cael ei chreu unwaith, ei chadw lle gall pobl ddod o hyd iddi, a’i throsglwyddo ar ffurf y gall y cwmni nesaf ei defnyddio.

Defnyddir y gair “digidol” am bopeth o ffolder a rennir i fodel 3D llawn o adeilad. Mae’r pecyn cymorth yn ceisio defnyddio’r diffiniadau plaen er mwyn i ni allu helpu pob cwmni, beth bynnag fo’i faint neu ei grefft.

Sut mae digidol yn edrych o ddydd i ddydd

  • Ffeiliau, lluniadau, ffotograffau a chyfrifon wedi’u cadw’n ddiogel ac yn chwiliadwy.
  • Rheoli fersiynau a strwythur storio clir, fel y gall pobl ddod o hyd i wybodaeth gyfredol.
  • Gwybodaeth wedi’i storio a’i rhannu mewn fformat y gall y cwmni nesaf ei agor a dibynnu arno.
  • Cofnodion o’r hyn a benderfynwyd, a symudwyd neu a wnaed, a phryd, wedi’u cadw drwy gydol y gwaith.

Er enghraifft, mae cwmni gwaith coed 2 berson sy’n tynnu lluniau o’i waith, yn enwi’r ffeiliau’n synhwyrol ac yn eu hanfon at y prif gontractwr ar ffurf y gall ei hagor yn gweithio’n ddigidol.

Beth nad yw digidol

Nid cynnyrch penodol i’w brynu na thystysgrif i’w dal yw digidol, ac nid yw argadw ar gyfer contractwyr mawr sydd yn gwneud gwaith mawr. Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau eisoes yr offer sydd eu hangen arnynt: ffôn, gliniadur a’r feddalwedd a ddaeth gyda nhw. Mae’r pecyn cymorth hwn yma i’ch helpu i ddod o hyd i’r cydbwysedd cywir o ran digidol ar gyfer eich busnes.

Ble mae’r safonau’n ffitio

Mae safonau a chanllawiau cyhoeddedig ar gael ar gyfer llawer o weithgareddau digidol, fel rheoli gwybodaeth, seiberddiogelwch neu rannu data. Maent yn ddefnyddiol unwaith y bydd eu hangen ar gwmni, ond fe allan nhw fod yn llethol pan nad oes eu hangen. Maen nhw hefyd wedi’u hysgrifennu ar gyfer arbenigwyr, ac mae’n rhaid prynu’r rhan fwyaf ohonynt. Mae’r pecyn cymorth yn cyfeirio at safon pan fyddwn yn credu ei bod yn berthnasol i chi, ac yn ceisio egluro mewn iaith glir beth mae’n gofyn amdano.

6 maes o waith cwmni

Mae digidol yn cyrraedd gwahanol rannau o gwmni ar gyflymder gwahanol. Mae eich Proffil Digidol yn gwirio’n gyntaf bod y pethau sylfaenol yn eu lle, fel cysylltedd a seiberddiogelwch, ac yna’n edrych ar 6 maes ar wahân, o reoli gwybodaeth i ddeallusrwydd artiffisial (AI) a thechnolegau clyfar.

Rhowch gynnig arni ar gyfer eich cwmni:Cofrestrwch am ddimMewngofnodi

Mae’r wefan hon yn defnyddio 3 chwci bach: mae un yn eich cadw wedi mewngofnodi, mae un yn cofio eich bod wedi gweld yr hysbysiad hwn, ac mae un yn cyfrif lawrlwythiadau am ddim o’r llyfrgell. Caiff ymweliadau â thudalennau eu cyfrif ar ein gweinydd ein hunain. Ni chaiff dim ei rannu ag unrhyw un arall ac nid oes tracwyr hysbysebu. Sut rydym yn defnyddio cwcis